Latest Events

No events
Home
Yn sicr, Efe a ddaw PDF Print E-mail
Sut y mae Crist yn dyfod?

Sut y mae Crist yn dyfod?

Pan atgyfododd lesu Grist o'r meirw, ymddangosodd i'w ddisgyblion. Ar un achlysur dywedodd wrth un ohonynt: "Edrychwch fy nwylo a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch: canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi" (Luc 24: 39).

Pwysleisiwyd Ei bresenoldeb corfforol: "A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl. Yntau a'i cymerodd ac a'i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt" (Luc 24: 42,43).

Yn ddiweddarach esgynnodd yr lesu i'r nefoedd. Fe sicrhawyd ei ddisgyblion gan yr angylion gyda'r geiriau, "... yr lesu hwn, yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i'r nef, a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i'r nef” (Actau 1:11). Y mae llawer o adnodau yn y Beibl yn ategu y pwynt hwn. Fel enghraifft: "Wele, y mae efe yn dyfod gyda'r cymylau, a phob llygad a'i gŵel ef” (Datguddiad 1:7).

Hefyd: "Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmwl, gyda gallu a gogoniant mawr" (Luc 21:27). Daw fel brenin, gyda bendithion i'r rhai sydd yn aros amdano: "...eithr ni a wyddom pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo; oblegid ni a gawn ei weled ef megis ag y mae" (1 Ioan 3:2).

Paham y mae Crist yn dyfod?

Y mae llawer o resymau paham y mae lesu Grist yn dyfod yn ôl i'n byd. Yn gyntaf oherwydd y mae Duw wedi addo: "...yr holl dir a lenwir o ogoniant yr Arglwydd" (Numeri 14:21).

Nid oes cyfiawnder na rhyddid oddi wrth orthrymder i'w gael yn y byd heddiw. Ond y pryd hynny bydd yr lesu yn teyrnasu: "...ac nid wrth olwg ei lygaid y barn efe, nac wrth glywed ei glustiau y cerydda efe. Ond efe a farn y tlodion mewn cyfiawnder ..." (Eseia 11:3,4).

Ei lywodraeth a fydd dros holl greaduriaid y byd gyda'r canlyniad: "Ni ddrygant ac ni ddifethant yn holl fynydd fy sancteiddrwydd: canys y ddaear a fydd llawn o wybodaeth yr Arglwydd, megis y mae y dyfroedd yn toi y môr" (Eseia 11:9).

Un cyfeiriad arall sydd yn fwy trawiadol: "Ac fe sych Duw ymaith bob deigr oddi with eu llygaid hwynt, a marwolaeth ni bydd mwyach, na thristwch, na llefain, na phoen ni bydd mwyach; oblegid y pethau cyntaf a aeth heibio" (Datguddiad 21:4).

Dileir holl feichiau dynolryw pan fydd y Brenin lesu Grist yn teyrnasu: "Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni, a'i Grist Ef, ac efe a deyrnasa yn oes osoedd" (Datguddiad 11:15). "Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed. Y gelyn diweddaf a ddinistrir yw yr angau" (1 Corinthiaid 15:25,26).

I ba le y mae Crist yn dyfod?

Yr ydym wedi gweld bod Duw yn mynd i lenwi'r ddaear â'i ogoniant: "Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Creawdydd y nefoedd, y Duw ei hun a luniodd y ddaear, ac a'i gwnaeth; efe a'i sicrhaodd hi, ni chreodd hi yn ofer; i'w phreswylio y lluniodd hi" (Eseia 45:18). Felly nid yw yn syndod i'r lesu ddysgu ei ddisgyblion i weddïo, "Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd" (Mathew 6:10).

Teyrnas Dduw sydd ar ddyfod ar y ddaear. Fe ddywedodd yr angel with Mair i enwi ei mab, lesu. "Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf; ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd," (Luc 1:32) - yn Jeriwsalem, prif ddinas y byd yn y dyfodol, "canys dinas y brenin mawr ydyw" (Mathew 5:35). "Minnau a osodais fy Mrenin ar Seion fy mynydd sanctaidd" (Salm 2:6). Hefyd yn Eseia 2:3, "...canys y gyfraith a a allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jeriwsalem." Yn y man lle'r esgynnodd yr lesu y daw yn ôl eto: "A'i draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr Olewydd, yr hwn sydd ar gyfer Jeriwsalem o du y dwyrain" (Cymherir Sechareia 14:4 a'r Actau 1:12).

Pa bryd y mae y Crist yn dyfod?

Ar un achlysur gofynnodd y disgyblion i'r lesu: "...a pha arwydd fydd o'th ddyfodiad ac o ddiwedd y byd?" (Mathew 24: 3). Atebodd yr lesu mewn dwy ran, y rhan gyntaf yn perthyn i gwymp Jeriwsalem a ddigwyddodd yn AD 70, a'r ail ran yn cynnwys arwyddion ei ail ddyfodiad. Ym mhlith yr arwyddion hyn yw dychweliad y genedl Iddewig i'w gwlad.

Yr ydym wedi gweld hyn yn digwydd. Efe a ddywedodd hefyd: "...ar y ddaear ing cenhedloedd gan gyfyng gynghor; ... A dynion yn llewygu gan ofn ... Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda gallu a gogoniant mawr" (Luc 21:25,26,27). Y mae arwyddion yr amserau hyn yn eglur i bawb.

Meddyliwch amdanynt, oherwydd: "Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos" (Luc 21:31). A ydych chwi yn barod am ddyfodiad yr lesu?

Felly, beth sydd rhaid i mi ei wneuthur?

Y ffordd i baratoi am ddyfodiad yr lesu yw darganfod beth y mae Ef am i ni wneud ac wedi hynny ei wneuthur. "Y neb a gredo ac y fedyddier a fydd cadwedig" (Marc 16:16). Y mae bedydd yn hanfodol, oblegid: "Oddi eithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw" (loan 3:3 ).

A Duw: "... sydd yr awrhon yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau. Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gŵr a ordeiniodd efe; gan roddi ffydd i bawb, oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi with y meirw" (Actau 17:30,31).

Y mae'r esboniad hyd yn hyn yn cynnwys y prif bwyntiau a geir yn y Beibl am ddyfodiad yr lesu. Peidiwch â'i gadael yn y fan hon. Darllenwch yr adnodau eich hunan. Y mae llawer mwy o adnodau sydd yn siarad yn eglur am ddyfodiad Iesu Grist. Maent yn datgan yn huawdl i ni am y dyfodol y mae Duw wedi paratoi.

Bydd yn deyrnas lythrennol a reolir gan frenin llythrennol. Ei awdurdod fydd yn hollalluog, cyfawn a thragwyddol.

Ydych chwi o'r un feddwl â'r hwn a ddywedodd: "Beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig?" (Actau 16:30). Yr ateb a dderbyniodd yw'r neges i chwi heddiw: "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist" (Actau 16:31). "Y neb a gredo ac a fedyddier a fydd cadwedig" (Marc 16:16). Y mae'r un ffordd ar agor o hyd - i chwi.

Anfonir yn ddi-dal
Cynllun Darllen y Beibl
(Bible Reading Planner)
yn cynnwys nodiadau defnyddiol; hefyd manylion yn­
glyn a chyfarfodydd y Cristadelffiaid.

Afonwch (heb stamp ar eich llythyr) at:
Bible Information Service
FREEPOST SWC 3067
SWANSEA, SA4 4ZZ

Last Updated ( Monday, 18 October 2004 )
 
© 2010 llanellichristadelphians.org.uk
Joomla! is Free Software released under the GNU/GPL License.